Lucy Stone | |
---|---|
Ganwyd | 13 Awst 1818 West Brookfield, Massachusetts |
Bu farw | 19 Hydref 1893, 18 Hydref 1893 Boston |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, golygydd, diddymwr caethwasiaeth, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ysgrifennwr |
Tad | Francis Stone, Jr. |
Priod | Henry Browne Blackwell |
Plant | Alice Stone Blackwell |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod |
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Lucy Stone (13 Awst 1818 - 19 Hydref 1893) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, golygydd, ac fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched (etholfraint) ac yn erbyn caethwasiaeth.[1]
Fe'i ganed yn West Brookfield, Massachusetts a bu farw yn Boston o ganser y stumog. Mynychodd Goleg Oberlin a Choleg Mount Holyoke. Bu'n briod i Henry Browne Blackwell ac roedd Alice Stone Blackwell yn blentyn iddi.[2][3][4][5][6]
Stone oedd y fenyw gyntaf o Massachusetts i ennill gradd coleg, a hynny yn 1847. Siaradodd dros hawliau menywod ac yn erbyn caethwasiaeth ar adeg pan oedd rhagfarn yn erbyn menywod adeg pan ataliwyd nhw rhag siarad yn gyhoeddus. Roedd Stone yn adnabyddus am ddefnyddio ei henw geni ar ôl priodi, yn hytrach na chymryd cyfenw eu gŵr.
Arweiniodd gweithgareddau Stone dros achos hawliau menywod at enillion a newid deddfwriaethol, a hynny yn amgylchedd gwleidyddol anodd y 19g. Helpodd Stone i sefydlu Confensiwn Cenedlaethol Hawliau Menywod cyntaf yn Worcester, Massachusetts.
Siaradodd Stone o flaen nifer o gyrff deddfwriaethol i hyrwyddo deddfau er mwyn rhoi mwy o hawliau i fenywod. Cynorthwyodd hefyd i sefydlu Cynghrair Teyrngarwch Cenedlaethol y Fenyw (Woman's National Loyal League) i helpu i basio'r "Trydydd Gwelliant ar Ddeg" (the Thirteenth Amendment) a thrwy hynny ddileu caethwasiaeth; ar ôl hynny, cyd-sefydlodd American Woman Suffrage Association (AWSA)'.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search